Easily integrate Welsh and/or bilingual Welsh and English language AI models for natural language processing, translation or speech into your projects via simple API calls.
Our APIs are hosted on GPUs for faster inference and are for free to use. No registration, login accounts or keys are required. Your usage however will be restricted and limited to fair and sensible levels.
If your project or organization however requires higher usage limits then get in touch with us at techiaith@bangor.ac.uk to discuss possible solutions.
Mae ychwanegu modelau deallusrwydd artiffisial Cymraeg neu ddwyieithog ar gyfer prosesu iaith naturiol, cyfieithu neu leferydd i’ch projectau yn broses cyflym a hwylus, drwy alwadau API syml.
Gweinyddir ein APIs, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, ar GPUs. Nid oes angen cofrestru, mewngofnodi na defnyddio allweddi ond bydd eich defnydd yn cael ei gyfyngu i lefelau teg a synhwyrol.
Mae croeso i chi gysylltu â ni os yw gofynion eich project yn golygu bod angen llacio’r cyfyngiadau hyn: techiaith@bangor.ac.uk
Use the machine translation API to translate texts between Welsh and English. Some models are optimized to provide better translations for text from various domains such as Health, Social Care and Legislation.
API cyfieithu peirianyddol er mwyn cyfieithu testunau rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Mae rhai modelau wedi'u hoptimeiddio i ddarparu cyfieithiadau gwell ar gyfer testunau o wahanol feysydd megis Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Deddfwriaeth.
Add a male, female, north or south Wales accented voices with our text-to-speech API. Our voices can read aloud both Welsh and English texts.
Gallwch ychwanegu lleisiau acennog gwrywaidd, benywaidd, gogleddol neu ddeheuol gyda'r API testun-i-leferydd. Mae'r lleisiau'n gallu darllen yn uchel destunau Cymraeg, Saesneg neu gyfnewid cod rhwng y ddwy iaith.
Convert Welsh or English speech audio into text. The API makes it easy to receive transcriptions in .srt and .vtt formats. Audio can originate from small or large multimedia files.
Trosi sain leferydd Cymraeg neu Saesneg i destun. Mae'r API yn hwyluso’r broses o dderbyn trawsgrifiad yn y fformatau .srt a .vtt. Gall y sain ddod o ffeil amlgyfrwng bach neu fawr.
Powered by Cysill, this API can find any spelling, general grammatical errors as well as incorrect mutation errors, and then inform why the error is considered to be incorrect and provide corrections.
Wedi'i bweru gan Cysill, gall yr API hwn adnabod unrhyw wallau sillafu neu wallau gramadegol gan gynnwys camdreigladau gan awgrymu’r cywiriadau priodol.
Search for a Welsh term from all standard term dictionaries by the Term Standardization Center and other approved partners since 1993. Includes searching Y Termiadur Addysg, Coleg Cymraeg Terminological Dictionary and Cysgair General Dictionary.
API sy’n galluogi i ddefnyddwyr chwilio drwy’r casgliad o dermau geiriadurol safonol y Ganolfan Safoni Termau a phartneriaid cymeradwy eraill ers 1993, gan gynnwys Y Termiadur Addysg, Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg a Geiriadur Cyffredinol Cysgair.
An API that's able to recognize and assign each word in a text with its correct part of speech (e.g. noun, verb, adjective etc.)
API sy’n gallu adnabod a phennu pob gair mewn testun gyda’u rhannau ymadrodd cywir (e.e. enw, berf, ansoddair ac ati)
A Welsh lemmatizer API that can map any inflected form of a word into its base or dictionary headword (aka 'lemma'). More accurate than stemmers, such functionality is useful during the pre-processing of text and understanding its meaning.
API lemateiddiwr Cymraeg sy'n gallu mapio gair ffurfdroëdig i'w ffurf gysefin neu brifair geiriadur (aka 'lemma'). Yn fwy cywir na bonwyr, mae cydran o'r fath yn ddefnyddiol ar gyfer rhag-brosesu testun a deall ei ystyr.
Analyzes a text and returns whether it is primarily in Welsh or English along with a numeric score. This capability is often needed so that any further processing or storage of texts can be align with language.
Dadansoddi a dychwelyd, boed yn Gymraeg neu Saesneg yn bennaf ynghyd â sgôr rhifol. Mae angen y gallu hwn yn aml fel er mwyn sicrhau bod unrhyw brosesu neu storio testunau pellach yn gydnaws a'r iaith.
This is the brain behind our Macsen digital assistant app available also as an API. It supports a number of skills, including reporting the latest news from Golwg360 headlines, providing weather forecasts from OpenWeatherMap, query Welsh language Wikipedia as well be able to ask any question under the sun in Welsh and get a short and concise answer from GPT-4.
Dyma ymennydd ein hap cynorthwyydd digidol Macsen, ar gael hefyd ar ffurf API. Mae'n cynnwys nifer o sgiliau, gan gynnwys adrodd y newyddion diweddaraf o benawdau Golwg360, darparu rhagolygon y tywydd o wefan OpenWeatherMap, holi Wicipedia Cymraeg yn ogystal â gofyn unrhyw gwestiwn Cymraeg a chael ateb byr a chryno gan GPT-4.
We use cookies to improve your experience and enable recording your voice.
Rydym yn defnyddio briwsion i wella eich profiad a galluogi recordio eich llais
Accept & Continue Derbyn a PharhauNeed to learn more? Privacy & Cookie Policy
Angen dysgu mwy? Preifatrwydd a Pholisi Briwsion